1. Iwan Jones
2. Celt Iwan
3. Llyr Davies
4. Alex Davies
5. Rhodri G Williams
6. Dylan Roberts
7. Ryan David
8. Rhodri Dafydd
9. Tom Davies
10. Caio Iwan
11. Osian Pritchard
12. Aled Hughes
13. Tom Lewis
14 Rhys Davies
15. Rhodri W Williams
16. Tom Pritchard
Dechreuodd Clwb Cymric y gêm yn dda iawn gan symud y bel yn sydyn ac nid oedd yn syndod pan aethant ar y blaen yn fuan pan rwydodd Tom Davies. Cafwyd cyd-chwarae da lawr yr asgell dde a derbyniodd y croesiad i’w draed a saethodd yn syth heibio golwr Tonyrefail gyda gwyriad bach ar ei ffordd. Parhaodd Cymric I ddominyddu’r chwarae, gan gerfio amddiffyn Tonyrefail pan fynnant, a chreu nifer o gyfleoedd da gan gynnwys arbediad dwbl gan golwr Tonyrefail, yn gyntaf i gadw Osian Pritchard allan ac yna Rhodri Jones. Cafodd Cymric gyfleoedd eraill o giciau rhydd a chiciau cornel, wrth iddynt wastio 3 cyfle euraidd o 6 llath, pob un yn mynd heibio’r gol. Fel yn y gemau blaenorol, fe dalodd Cymric yn drwm am fethu’r holl gyfleoedd. Enillodd Tonyrefail gic cornel gyda’u hymosodiad cyntaf o nod ac unionwyd y sgôr pan beniwyd y bel i gefn y rhwyd gan chwaraewr ganol cae Tonyrefail heb sialens o chwe llath. Sbardunodd y gôl Tonyrefail a chawsant fwy o’r chwarae a arweiniodd at eu hail gol. Newidiwyd y chwarae o’r dde i’r chwith yn dda ac fe dderbyniodd blaenwr Tonyrefail y bel yn y cwrt a tharodd ergyd dda i gornel bela’r gôl.
Gwelwyd Cymric yn llwyr reoli’r ail hanner ac fe chwaraewyd y rhan fwyaf ohono yn hanner Tonyrefail o’r cae. Ddaru Cymric greu nifer o gyfleoedd trwy gydol yr hanner, gan gynnwys dau fethiant o ddwy lath gyda’r gôl yn wag, nifer o arbedion gwych a chyfle da i Rhodri Vince wrth iddo reoli ar ei frest, pen glin a throi’n sydyn a tharo ergyd ond aeth yn syth at y golwr. Cafodd Cymric eu gwobr am ddyfalbarhau gyda gôl gan Vince gyda 10 munud yn weddill. Gwelwyd croesiad dwfn at y postyn pella yn cael ei rheoli ar y frest gan Vince ac yna slotio’r bel heibio’r golwr. Roedd Cymric yn hyderus iawn wrth fynd i edrych am y gôl allweddol ond roedd ymagwedd uniongyrchol Tonyrefail wedi bod yn bygwth wrth i Cymric edrych am y drydydd. Gyda 5 munud yn weddill ddaru Tonyrefail glirio’r bel a thorri’n gyflym a derbyniodd blaenwr Tonyrefail y bel, a oedd yn camsefyll yn glir, ac ar ôl sgrambl yn y cwrt cafodd y bel ei rhoi yng nghefn rhwyd Cymric. Fe barhaodd Cymric i ymosod a rhoi pwysau ar amddiffyn Tonyrefail yn y munudau olaf, hyd yn oed ar ôl i Celt Iwan gael ei ddanfon i ffwrdd am gega efo’r dyfarnwr ar ôl y gôl, ond yn anffodus gorffennodd y gêm a bu rhaid i Cymric edrych yn ôl ar yr haid o gyfleoedd y cawsant trwy gydol y gêm.
Sgôr terfynol – Tonyreafil 3 Clwb Cymric 2
Chwaraewyr y Gêm – Rhodri G Williams & Rhodri Dafydd
Clwb Cymric started very brightly, moving the ball quickly with intensity and therefore it was not much of a surprise when Tom Davies scored an early opener for Clwb Cymric. Good play down the Cymric right enabled the ball to be delivered into the box which fell at the feet of Davies whose shot took a slight deflection leaving the Tonyrefail keeper with no chance. Cymric continued to dominate, carving the Tonyrefail defence apart at will, resulting in numerous clear chances including a fine double save from the Tonyrefail keeper, first from Osian Pritchard and then from Rhodri Jones. Cymric also dominated at the set piece, with three free headers from within 6 yards all missing the target. However, consistent with recent matches, Cymric’s failure to capitalise on their domination was to prove costly. Tonyrefail’s first meaningful foray into the Cymric half resulted in a corner. A good delivery was met by a towering free header from six yards from the Tonyrefail midfielder to equalise. The goal gave Tonyrefail confidence, resulting in some good possession which led to their second. Good play saw the ball switched from the right to the left and a neat lay off in the box found their number 9 who slotted home sharply into the far corner.
The second half saw Cymric dominate both possession and territory throughout. Chances were created at will, including two misses from two yards out with the goal gaping, a series of fine saves and an excellent chest, knee and volley on the swivel from Rhodri Gwyn Williams which was fired straight at the keeper. The pressure finally told, with an equaliser from Rhodri Gwyn Williams with 10 minutes left. A deep cross found a loitering Williams at the back post, who was able to chest the ball down before slotting past the Tonyrefail keeper. Cymric were confident of netting a winner, but Tonyrefail’s direct approach had threatened throughout the second half as Cymric pushed. With 5 minutes remaining a long clearance triggered a Tonyrefail break and the ball was played to the Tonyrefail striker, who was clearly offside, and after a scramble in the box the ball was turned into the net. Cymric continued to pressurise in the final minutes even having gone down to ten men after Celt Iwan was sent off for his protests following the Tonyrefail winner. The game finished 3-2, with Cymric left to rue the numerous chances they had throughout.
Final score – Tonyreafil 3 Clwb Cymric 2
MOTM – Rhodri G Williams & Rhodri Dafydd