Back to All Events

Clwb Cymric 3-0 Cornelly Utd

1. Rhys Davies

2. Celt Iwan

3. Llyr Davies

4. Alex Davies

5. Rhodri G Williams 

6. Aled Hughes

7. Ryan David

8. Dylan Roberts

9. Tom Davies

10. Rhodri W Williams 

11. Osian Pritchard 

12. Tom Lewis

14 Jonathan Jones

15. Iwan Williams

16. Stuart Williams 


Ddaru Cymric ddod a’r rhediad o ganlyniadau siomedig diweddar i ben gyda buddugoliaeth dda gartref yn erbyn Cornelly Utd. Dechreuodd Cymric yn dda gan greu cyfle yn yr ail funud pan groesodd Rhodri Williams y bel i Tom Davies ond aeth ei gynnig heibio’r postyn o 4 llath. Cafodd Cornelly eu cyfle cyntaf ar ôl chwarter awr pan roddodd Dylan Roberts y bel i ffwrdd yng nghanol cae ond aeth yr ergyd o bellter dros y bar. Fu bron i Dylan Roberts roi Cymric ar y blaen gyda tharan o gic rydd o 40 llath ond gwelwyd arbediad gwych gan y golwr. Fodd bynnag, fe dalodd holl bwysau Cymric wedi iddynt fynd ar y blaen ar ôl 22 munud gyda Dylan Roberts yn rhwydo o 35 llath gyda tharan o ergyd arall a symudodd yn yr awyr ar ei ffordd gan yrru’r golwr y ffordd anghywir. Cafodd Cornelly gynnig o gic rydd aeth ychydig heibio’r postyn ychydig wedyn ond aeth Cymric ymhellach ar y blaen ar ôl 34 munud ar ôl cyd-chwarae da iawn rhwng Rhodri Williams, Tom Davies a Ryan David a welodd David yn gyrru Tom Davies drwodd ar gôl. Cadwodd ben cŵl cyn slotio’r bel yn wych heibio’r golwr. 

Dechreuodd Cornelly yr ail hanner gyda phwrpas ond cadwodd amddiffyn Cymric yn gadarn a’u cyfyngu i ymdrechion o bell oedd wastad heibio’r marc. Aeth Cornelly lawr i 10 dyn ar ôl 54 munud pan gafodd eu chwaraewr ganol cae ail gerdyn melyn am dacl hwyr ar Aled Hughes. Fodd bynnag, ddaru Cornelly barhau i chwarae gyda phwrpas ond fu bron iddynt gael eu dal ar y brêc gan Cymric ond gafodd ergyd Rhodri Williams ei harbed yn dda gan y golwr ar ôl i ymdrech Osian Pritchard gael ei blocio. Tarodd Tom Davies y postyn o 6 llath ar ôl gwaith da gan Osian Pritchard lawr y chwith ond gwnaethpwyd y gêm yn saff ar ôl 77munud pan dorrodd Aled Hughes, seren y gêm, y chwarae i fyny yng nghanol cae a mynd ar rediad. Chwaraeodd un dau gyda Rhodri Williams ar ochor y cwrt a roliodd y bel heibio’r golwr wrth iddo ddod allan i arbed. Fu bron i Cornelly dynnu un yn ôl ar ôl 88 munud pan gafodd y bel ei chodi dros Rhys Davies yn y gôl ond roedd Alex Davies ar y llinell i reoli ar ei frest cyn clirio’r bel lawr y cae. 

Sgôr terfynol – Clwb Cymric 3 Cornelly Utd 0 

Chwaraewr y Gêm – Aled Hughes


Clwb Cymric ended their recent run of poor results with a good win at home to Cornelly. Cymric started very brightly and should have scored in the 2nd minute when Rhodri Williams crossed to Tom Davies but his effort went wide from 4 yds. Cornelly had their first effort on 15 minutes when Dylan Roberts gave the ball away in midfield from the effort from distance went over the bar. Dylan Roberts nearly gave Cymric the lead on 18 minutes but his blockbusting free kick from fully 40yds was well saved. Cymric’s pressure paid off when they went ahead on 22 minutes with a wonderful strike by Dylan Roberts from 35yds that moved in the air and sent the Cornelly keeper the wrong way. Cornelly had another effort from a free kick but it went fractionally wide. Cymric extended their lead on 34 minutes when some excellent interplay between Rhodri Williams, Tom Davies and Ryan David saw David put Tom Davies through on goal and he kept his cool to slot the ball past the advancing keeper. 

Cornelly started the second half with a purpose but the Cymric defence held firm and restricted them to long range efforts which were off target. Cornelly were reduced to 10 men on 54mins when their midfield player was shown a second yellow card for a challenge on Aled Hughes. However, Cornelly still played with purpose but they were nearly caught on the break by Cymric but Rhodri Williams’ shot was well saved after Osian Pritchard’s initial effort was blocked. Tom Davies then hit the Cornelly post from 6 yards after good work by Osian Pritchard. Cymric scored their third on 77 minutes when man of the match Aled Hughes broke up play and went on a run. He played a give and go with Rhodri Williams and then rolled the ball passed the advancing keeper. Cornelly nearly pulled one back on 88 minutes when the ball was lifted over Rhys Davies in the Cymric goal but Alex Davies was on hand on the line to chest the ball down and clear the danger. 

Final score – Clwb Cymric 3 Cornelly Utd 0 

MOTM – Aled Hughes

Earlier Event: 1 April
Tonyrefail 3-2 Clwb Cymric
Later Event: 11 April
Whitchurch 1-1 Clwb Cymric