Back to All Events

Clwb Cymric 1-2 Penrhiwceiber Cons

1. Iwan Jones

2. Tom Hughes

3. Llyr Davies

4. Dylan Roberts

5. Rhys Davies 

6. Jonathan Jones

7. Tom Pritchard

8. Tom Lewis

9. Huw Owen

10. Ryan David 

11. Osian Pritchard 

12. John Davies

14 Robert Gaffey

15. Stuart Williams

16. Dewi Davies 


Aeth Cymric i mewn i’r gêm gyda nifer o’r sgwad ddim ar gael gan eu bod drosodd yn Nulyn yn gwylio Cymru. Fodd bynnag, cafwyd dechrau da i’r gêm pan ddaru Dylan Roberts ddod o hyd i Ryan David gyda pass hir dros y top and cafodd ei ergyd ei safio’n dda. Cafodd Penrhiwceibr gyfle da i sgorio 2 funud yn ddiweddarach ond arbedodd Iwan Jones yn wych. Roedd Penrhiwceibr yn dominyddu’r meddiant ond nid oeddynt yn gallu creu dim cyfleoedd o nod ond roedd Cymric yn edrych yn beryg wrth dorri. Cafodd Huw Owen hanner cyfle ar ôl 19 munud ond ergydiodd heibio o 20 llath. Cafodd Huw gyfle arall ar ôl 25 munud ond cafodd ei ergyd o ongl ei safio’n wych gan y golwr. Roedd hi’n edrych fel bod yn ddiwrnod rhwystredig i Huw pan dderbyniodd y bel gan Llŷr Davies ar ôl hanner awr ac aeth rownd y golwr a tharo ergyd am gol gwag ond cafodd y bel ei chlirio oddi ar y llinell yn wych gan yr amddiffynnwr. Aeth Ryan David yn agos ar ôl 36 munud pan gafodd ei ergyd ei dipio dros y bar gan y golwr. Ond, aeth Cymric ar y blaen ar 43 munud ac o’r diwedd cafodd Huw Owen ei wobrwyo am ei ddyfalbarhad ar ôl iddo sgorio o ongl ar ôl derbyn y bel gan Tom Pritchard. 

Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn dda a dylsant wedi ymestyn eu mantais ar ôl 50 munud pan dderbyniodd Tom Pritchard y bel mewn gwagle yn y cwrt ond tarodd ei ergyd y postyn a disgyn wrth droed Huw Owen ond cafodd ei gol ei gwrthod gan oedd yn camsefyll. Cafodd Osian Pritchard ergyd a gafodd ei thipio dros y bar gan golwr Penrhiwceibr, oedd yn cael grêt o gêm, ar ol iddo fynd ar un o’i rediadau da lawr y chwith. Ond, profodd methiannau Cymric o flaen y gôl yn gostus iawn. Arbedodd Iwan Jones yn wych o gic rydd ar ol 56 munud ond nid oedd yn gallu gwneud dim i atal Penrhiwceibr rhag unioni ar ol 62 munud. Collodd Cymric y bel yng nghanol cae ac roedd Llŷr Davies allan o’i le, a manteisiodd asgellwr de Penrhiwceibr ar hyn wrth iddo fynd ar rediad da lawr yr asgell a thynnu’r bel yn ol i’w flaenwr a sgoriodd hwnnw gyda’i ail gynnig o agos. Roedd Penrhiwceibr wedi cael lot o feddiant trwy gydol yr ail hanner ond nid oedd ganddynt ddim i’w ddangos. Arbedodd Iwan Jones yn wych unwaith eto ar ol 73 munud ond aeth Penrhiwceibr ar y blaen ar ol 79 munud. Cafodd dafliad hir ei fflicio 'mlaen at y blaenwr a sgoriodd hwnw wrth hwcio’r bel dros ei ysgwydd i gornel isa’r rhwyd. Dim ond y bel hir oedd gan Cymric ar ôl am weddill y gêm ond fe ddeliodd amddiffyn Penrhiwceibr gyda’r bygythiad yn dda iawn i sicrhau’r 3 phwynt. 

Canlyniad siomedig iawn i Clwb Cymric o gêm y gallai, a dylai, fod wedi bod yn fuddugoliaeth iddynt. Fodd bynnag, cawsant wers ar sut i basio pêl a chadw meddiant gan Benrhiwceibr am gyfnodau hir yn ystod y gêm. 

Sgôr terfynol – Clwb Cymric 1 Penrhiwceiber Cons 2 

Chwaraewr y Gêm – Iwan Jones


Cymric went into this match with a much changed line-up as the majority of the squad was over in Ireland for Wales’ World Cup Qualifier. However, they started brightly and created an opening in the first minute when Dylan Roberts found Ryan David with a long ball over the top but his shot was well saved. Penrhiwceiber had a great chance 2 minutes later but Iwan Jones pulled off a great save to deny the forward. Penrhiwceiber had a lot of the ball but failed to create any chances but Cymric looked dangerous on the break. Huw Owen had a gilt edged chance on 19 minutes but he shot wide from 20 yards. Huw Owen again found himself in on goal at an angle on 25 minutes but his cross shot was excellently saved. It looked like it wasn’t going be his day when Llyr Davies put him in on goal after 30 minutes. He went round the keeper but he was denied yet again as his effort was brilliantly cleared off the line. Ryan David went close after 36 minutes when he had an effort tipped over the bar but Cymric did take the lead after 43 minutes and it was that man Huw Owen who netted from an angle after being put through by Tom Pritchard. 

Cymric started the second half well and should have extended their lead on 50 minutes when Tom Pritchard found himself in space in the box but his shot came back off the post and the rebound fell kindly to Huw Owen, but his goal was rightly ruled out for offside. Osian Pritchard then went on a great run on the left and had an excellent effort tipped over the bar by the Penrhiwceiber keeper who was having a great match. But, Cymric’s failure to find the net proved costly. Iwan Jones made a fantastic save from a direct free kick on 56 minutes but he couldn’t stop Penrhiwceiber from equalising on 62 minutes. Cymric gave the ball away in midfield and Llyr Davies found himself out of position which was exploited by the Penrhiwceiber right winger who went on a great run to the by-line and pulled the ball back for the forward to net on his second attempt from close range. Penrhiwceiber had seen a lot of possession throughout the second half with little to show for it. Iwan Jones pulled off another great save on 73 minutes but Ceiber took the lead and what proved to be all 3 points on 79 minutes. A long throw was flicked on and the Ceiber forward hooked the ball over his shoulder and into the corner of the net. Cymric then huffed and puffed and tried to get back into the game but they couldn’t create a chance and the Ceiber defence held firm. 

A very disappointing defeat for Clwb Cymric which, but for fine margins, could and should have been a win. However, they were dealt a lesson in how to pass and keep possession for long periods by Penrhiwceiber. 

Final score – Clwb Cymric 1 Penrhiwceiber Cons 2 

MOTM – Iwan Jones

Earlier Event: 21 March
Clwb Cymric 2-2 Tonyrefail
Later Event: 1 April
Tonyrefail 3-2 Clwb Cymric