Back to All Events

Clwb Cymric 2-3 Garw

Garw oedd gwrthwynebwyr olaf Cymric ym Mhenybont wedi tymor hir.

Cafwyd dechrau da wrth i Cymric chwarae pel droed addawol ar wyneb ardderchog, ac roedd Garw hefyd yno i geisio chwarae pel-droed.

Roedd y ddau amddiffyn yn gryf am y 15 munud cyntaf ond wedyn fe ddaliodd Garw amddiffyn Cymric yn cysgu gyda phel hir dros y top ac fe darodd blaenwr Garw’r bel i gefn y rhwyd o 15 llath. Ddaru hyn ysgogi Cymric ac fe ddechreuon nhw ddominyddu'r meddiant gyda’r ddau gefnwr asgellol yn amlwg iawn ym mhob ymosodiad.

Dylai Osian Pritchard fod wedi unioni’r sgor pan, ar ôl chwarae gwych, gwelodd ei hun drwadd gyda’r golwr yn unig i’w guro ond y golwr gath y gorau wrth iddo rwystro ei ymdrech. Roedd Huw Owen wastad yn boen i Garw gyda'i gyflymder a'i allu, ond fe ddaliodd Garw eu mantais tan yr hanner.

Dechreuodd Cymric yr ail hanner gyda pwynt i’w brofi ac unionwyd y sgor o fewn 10 munud. Ar ol cyd chwarae da yng nghanol cae, derbyniodd Huw Owen y bel a taniodd ergyd wych i gornel y rhwyd o 20 llath. Roedd Cymric bellach yn dominyddu’r meddiant ac yn chwilio am yr ail gol bwysig.

Newidiodd Garw eu ffordd o chwarae a cheisio herio Cymric yn gorfforol ond ddaru Cymric barhau i chwilio am yr ail gol allweddol. Fodd bynnag, Garw aeth ar y blaen, yn erbyn llif y chwarae, gyda 8 munud yn weddill, pan roddwyd ic o’r smotyn iddynt gan y dyfarnwr am drosedd oedd yn amlwg o leiaf llathen tu allan i'r bocs. Sgoriodd Garw drydedd pan gafodd camgymeriad yn amddiffyn Cymric ei gosbi.

Ni roddodd Cymric y ffidil yn y to a chawsant ail gol gyda 2 funud yn weddill. Ddaru Osian Pritchard ddarganfod ei hun mewn digonedd o le tu allan i'r bocs gyda Garw yn galw am gamsefyll, fe redodd at y bye-line a thynnu’r bel yn ôl i Tom Davies sgorio o 6 llath. Cafodd Cymric un cyfle arall i geisio cael pwynt ond fe aeth ergyd Huw Owen dros y bar.


Cymric’s last match of the season saw them entertain runners-up Garw at Penybont FC. They started brightly and played some lovely football on an excellent surface, and Garw were also there to play.

Both defences were on top for the first 15 minutes but then a long ball up field caught out the Cymric defence and the Garw forward blasted the ball home from 15 yards. This sparked Cymric into life and they started to dominate the possession with both full backs getting heavily involved in all attacks.

Osian Pritchard should have equalised when he was put through after some fantastic play,
but the keeper go the better of him and blocked his effort. Huw Owen was a constant thorn in Garw’s side with his pace and ability, but Garw held on to their lead until half time.

Cymric came out with a point to prove and equalised within 10 minutes. Some great interplay through midfield saw Huw Owen pick the ball up and his shot flew into the corner of the net from 20 yards. Cymric now dominated possession and were looking for the important second goal. Garw stopped playing and tried to get physical with a dominant Cymric who were having none of it and continued to probe to find that goal.

However, it was Garw who took the lead with 8 minutes to play, totally against the run of play, when the referee awarded a penalty for a foul that was clearly a yard outside the box. The Garw forward kept his cool and scored from the spot. Garw scored a third when a mistake in the Cymric defence was punished.

Cymric didn’t give up and pulled a goal back with 2 minutes to go. Osian Pritchard found himself in space outside the box with Garw calling for offside, he got to the by-line and pulled it back for Tom Davies to score from 6 yards. Cymric had one more opportunity to get a point but Huw Owen’s shot went over the bar.

MOTM - Huw Owen

Earlier Event: 12 May
Clwb Cymric 1-1 Butetown AFC