Back to All Events

Clwb Cymric 1-1 Butetown AFC

Aeth Cymric i mewn i'r gêm yn hamddenol ac yn awyddus i fwynhau eu gêm olaf ond un o'r tymor.

Fodd bynnag, nid oedd hyn am ddigwydd gan fo Butetown yn edrych am fuddugoliaeth a fyddai'n rhoi'r cyfle lleiaf iddyn nhw i osgoi’r cwymp.

Gosododd Butetown eu bwriad o'r dechrau, i fod yn gorfforol, weithiau'n ormodol, a cheisio bwlio Cymric er mwyn ennill y gêm.

Dechreuodd Cymric yn araf ac fe gymerodd dacl gwael iawn gan chwaraewr Butetown, a rhywfaint o wrthdaro, i’w deffro a dechrau chwarae. Dechreuon nhw fynd tu ôl i amddiffyn Butetown a rhoi ychydig o bwysau arnynt.

Aeth Cymric ar y blaen toc ar ôl hanner awr pan darodd Rhodri Williams bas hir gwych i Kyle Goodfellow, ac fe reolodd y bel yn wych gan hefyd weld bo golwr Butetown oddi ar ei linell. Tarodd cythraul o lob o’r llinell ochor dde a disgynnodd y bel dan y trawst ac i gefn y rhwyd i roi mantais haeddiannol i Cymric ar yr egwyl.

Fel yn yr hanner cyntaf, dechreuodd Butetown fod yn gorfforol iawn ar ddechrau'r ail, a
chafodd rhai taclo gwael, er bod ciciau rhydd wedi eu rhoi, ddim eu cosbi ymhellach gan y dyfarnwr.

Ddaru'r naill dim na'r llall gymryd gafael ar y gêm ond roedd Cymric yn hapus i amsugno unrhyw bwysau roedd Butetown yn ei roi arnynt a cheisio eu dal ar y brêc. Cafodd Butetown y gôl roeddynt yn edrych amdano pan, ar ôl chwarae blêr gan amddiffyn Cymric, fe sgoriodd y blaenwr o 8 llath.

Roedd Butetown nawr yn gweld eisiau’r ail gol allweddol ond nid oedd amddiffyn na chanol cae Cymric yn mynd i adael i hynny ddigwydd mewn unrhyw ffordd. Gorffennodd y gêm yn gyfartal ac fe gondemniodd hynny Butetown i bêl-droed yn yr ail adran y tymor nesaf.


Cymric went into the match relaxed and looking to enjoy their penultimate match of the season.

However, this didn’t prove to be the case as Butetown were searching for a win that would give them the slimmest of chances of avoiding relegation. Butetown laid down their intentions from the start, to be physical, sometimes overly, and try and bully Cymric into submission to get the win.

Cymric started slowly and it took a bad tackle by a Butetown player and some confrontation to wake Cymric up and get them playing. They started to get behind the Butetown defence and put some pressure on them. Cymric took the lead after the half hour mark when a long ball by Rhodri Williams was excellently controlled by Kyle Goodfellow, who spotted the keeper off his line and his lob, from the right hand touchline, dipped under the crossbar to give Cymric a deserved half time lead.

Butetown, once again, started to get physical at the start of the second half, and some bad challenges, though free kicks were given, went unpunished by the referee. Neither side really took the game by the scruff of the neck but Cymric were happy to absorb any Butetown pressure and try and catch them on the break.

Butetown eventually levelled after some sloppy play in the Cymric defence saw them fail to clear and the ball was blasted into the net from 8 yards. Butetown now had their sights set on the winner but the Cymric defence and midfield were in no mood to let this happen. It ended level and the draw condemned Butetown to division 2 football next season.

MOTM – Rhodri Williams

Earlier Event: 10 May
Clwb Cymric 6-1 Cogan Coronation
Later Event: 15 May
Clwb Cymric 2-3 Garw