1. Iwan Jones
2. Celt Iwan
3. Llyr Davies
4. Alex Davies
5. Rhodri G Williams
6. Aled Hughes
7. Ryan David
8. Rhodri Dafydd
9.Tom Davies
10. Caio Iwan
11. Osian Pritchard
12. Rhodri W Williams
13. Tom Lewis
14 Dylan Roberts
15. Huw Owen
16. Tom Pritchard
Aeth Cymric i mewn i’r gêm heb chwarae ers dros bythefnos and cawsant ddechrau da gan greu eu cyfle cyntaf ar ôl 3 munud pan ddaru Caio Iwan ryddhau Tom Davies ond cafodd ei ergyd ei harbed yn dda gan golwr Cornelly. Aeth Cymric yn agos eto ar ôl 14 munud pan dorrodd Aled Hughes o hanner ei hun a dod o hyd i Osian Pritchard ar y chwith ond tarodd ei ergyd y postyn. Ddaru holl bwysau Cymric dalu pan gawsant gic o’r smotyn ar ôl 16 munud ar ôl i Osian Pritchard gael ei lorio yn y cwrt a chladdodd Caio Iwan y gic o 12 llath. Ddaru Cymric barhau i ddominyddu a fu bron iddynt gael ail gol ar ôl 35 munud ond fe darodd peniad Alex Davies y postyn o gic cornel Osian Pritchard. Cafodd Cornelly eu cyfle cyntaf ar ôl 41 munud pan ddaru bêl hir ddal allan amddiffyn Cymric a rhyddhau asgellwr Cornelly ond fe darodd ei ergyd heibio’r postyn.
Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn dda ond cawsant anlwc fawr pan ddaru Osian Pritchard fynd drosodd ar ei ffêr a bu rhaid iddo adael y gêm. Unionodd Cornelly yn ffortunus ar ôl 53munud pan aeth ergyd ar hap o bell, bysa’n cael ei chasglu’n hawdd fel arfer, dan gorff Iwan Jones ac i gefn y rhwyd. Ddaru hyn ysbrydoli Cornelly ac aethant ar y blaen 4 munud yn ddiweddarach. Cawsant gic rydd ar y dde tua 40 llath o’r gôl ac fe godwyd y bel tuag at y postyn pellaf ac aeth hi’n syth i gornel ucha’r gol. Ddaru Cymric dorchi llewys a mynd a’r gêm yn ôl I Cornelly a fu bron iddynt unioni’r sgôr ar ôl 75 munud pan aeth Huw Owen drwadd ar y gôl ond tarodd ei ergyd heibio’r postyn. Gwrthodwyd gôl i Cymric pan farnodd y dyfarnwr bo Rhodri Williams yn camsefyll ar ôl i’r bel i’w gyrraedd ar ôl taro cefn troed y golwr. Unionwyd y sgôr ar ôl 77 munud pan gafodd Cymric gic o’r smotyn arall ar ôl i’r bel daro llaw amddiffynnwr Cornelly a chladdodd Dylan Roberts y bel o 12 llath. Cafodd Cymric dri chyfle euraidd i gipio’r pwyntiau yn y 5 munud olaf. Yn gyntaf, tarodd Dylan Roberts ergyd heibio o 8 llath ar ôl cic cornel wych gan Ryan David. Wedyn, fe beniodd Huw Owen heibio’r postyn gyda neb yn ei herio o 8 llath. Yn olaf, cododd Huw Owen y bel dros y golwr wrth iddo ddod allan a rhedodd Tom Davies tuag at y bel i’w phenio i mewn i gol agored ond cafodd ei herio gan yr amddiffynnwr a gwelodd ei beniad yn mynd dros y trawst o 6 llath.
Gem gyfartal siomedig i Glwb Cymric mewn gem y dylent wedi ei ennill ond maent nawr 5 pwynt tu ôl i Cardiff Draconians gyda 3 gem mewn llaw.
Sgôr terfynol – – Cornelly United 2 Clwb Cymric 2
Chwaraewr y Gêm – Rhodri Dafydd
Cymric went into this match not having a match for two weeks but they started well and created their first chance after 3 minutes when Caio Iwan released Tom Davies in on goal but his effort was well saved by the Cornelly keeper. Cymric went close again on 14 minutes when Aled Hughes broke from his own half and found Osian Pritchard on the left and his effort came back off the near post and went out. Cymric’s pressure eventually paid off when they were awarded a penalty on 16 minutes when Osian Pritchard was brought down in the box and Caio Iwan netted the spot kick. Cymric continued to dominate and nearly extended their lead on 35 minutes but Alex Davies’ header from a corner came back off the inside of the post and was cleared. Cornelly’s first real opportunity came on 41 minutes when Cymric failed to deal with a long ball and the Cornelly winger went in on goal but pulled his shot wide.
Cymric started the second half well but were dealt a blow when captain Osian Pritchard went over on his ankle and had to be replaced. Cornelly then levelled fortunately on 53 minutes when a speculative shot from long range, which would usually be collected easily, went under Iwan Jones’ body and into the back of the net. This spurred Cornelly and they took the lead 4 minutes later. They were awarded a free kick near the right touchline and the ball was floated towards the far post and went straight into the top corner. Cymric then rolled up their sleeves and took the game back to Cornell and nearly levelled on 75 minutes when Huw Owen was put through but his shot went wide. Cymric then had a goal disallowed when the referee wrongly adjudged Rhodri Williams to be offside after the ball came back off the goalkeeper’s foot. Cymric did level on 77 minutes when they were awarded their second penalty of the match for a blatant hand ball and Dylan Roberts scored from the spot. Cymric then went looking for the winner and had three golden chances to take the points within the last 5 minutes. Firstly, Dylan Roberts met a corner from the left but his unchallenged effort went wide from 8 yards. Huw Owen then had a free header from a corner and his effort went wide from 8 yards. Their final chance came from great work by Huw Owen who lifted the ball over the oncoming keeper and Tom Davies ran onwards to head the ball into an empty net but as he was challenged his effort went over the bar from 6 yards.
A disappointing draw for Clwb Cymric which should have been a win but it takes them 5 points behind Cardiff Draconians with 3 games in hand.
Final score – Cornelly United 2 Clwb Cymric 2
MOTM –Rhodri Dafydd