Back to All Events

Clwb Cymric 2-1 Aber Valley

1. Iwan Jones

2. Celt Iwan

3. Llyr Davies

4. Alex Davies

5. Rhodri G Williams 

6. Aled Hughes

7. Ryan David

8. Rhys Davies

9.Rhodri Dafydd

10. Caio Iwan 

11. Osian Pritchard 

12. Tom Pritchard

13. Tom Lewis

14 Dylan Roberts

15. Jonathan Jones

16. Owain Taylor 


Dechreuodd Aber Valley yn dda gan greu eu cyfle cyntaf o fewn y munud cyntaf pan gawsant ergyd o 35 llath aeth fodfeddi heibio’r postyn. Cafodd Cymric anffawd enfawr yn yr ail funud pan anafodd Iwan Jones ei ben-glin wrth arbed ergyd a bu rhaid i Rhys Davies roi’r menig ymlaen a mynd i’r gôl. Cafodd Cymric eu cyfle cyntaf ar ôl 11 munud ar ôl i Aber Valley beidio gallu delio gyda chic gornel ond ni ddisgynnodd y bêl yn ffeind i Cymric ac fe’i chliriwyd. Cafodd Caio Iwan gyfle o 20 llath ond cafodd ei harbed yn hawdd. Roedd yna dempo da i’r gêm gyda’r ddau dîm yn chwarae pêl-droed ymosodol a gafodd Cymric gyfle arall ar ôl 30 munud ar ôl cyd-chwarae da ar ochor cwrt cosbi Aber Valley ddaru weld Ryan David yn derbyn y bêl a rhedeg am y gôl ond cafodd ei ymdrech ei harbed yn dda. Ni chafwyd unrhyw gyfle o nod wedyn cyn hanner amser. 

Dechreuodd y ddau dîm yr ail hanner gyda’r un bwriad a’r hanner cyntaf sef i chwarae pêl-droed ymosodol. Cafodd Aber Valley eu cyfle cyntaf ar ôl 53 munud pan gafodd cic rydd ei phenio allan o’r cwrt cosbi a disgynnodd i chwaraewr ganol cae Aber Valley a tharodd y bêl ar y foli fodfeddi dros y trawst. Aeth Cymric ar y blaen ar ôl 68 munud pan gymerodd Ryan David dafliad sydyn a dod o hyd i Aled Hughes yng nghanol cae. Symudodd yntau'r bêl i’r dde a tharo chwim o ergyd i gornel ucha’r gôl o 35 llath. Aeth Cymric ymhellach ar y blaen 2 funud yn ddiweddarach pan dderbyniodd Osian Pritchard y bêl yng nghanol cae a tharo ergyd dda o 25 llath cafodd ei harbed gan y golwr, ond disgynnodd y bel i Ryan David a sgoriodd o 6 llath. Sgoriodd Aber Valley gôl tebyg ar ôl 77 munud pan arbedodd Rhys Davies ergyd blaenwr Aber Valley ond disgynodd y bel i’w gyd-chwaraewr a sgoriodd yn hawdd. Taflodd Aber Valley bob dim at Cymric er mwyn unioni’r sgôr ond ddaru Cymric amddiffyn yn wych i gadw’u mantais. Cafodd Rhodri Dafydd gyfle i wneud y gêm yn saff ar ôl 87 munud pan aeth drwodd ond aeth ei ergyd yn syth at y golwr. 

Sgôr terfynol – Clwb Cymric 2 Aber Valley 1 

Chwaraewr y Gêm –Aled Hughes

Aber Valley started well creating their first chance in the opening minute when they had a shot from 35 yards that went just wide. Cymric were dealt a huge blow in the second minute when Iwan Jones suffered a knee injury in the act of saving an effort and Rhys Davies took the gloves and went into goal. Cymric had their first chance on 11 minutes when Aber Valley couldn’t clear a corner and there was a goalmouth scramble but the ball was cleared. Caio Iwan then had an effort on goal from 20yds but it was easily saved. There was a good tempo to the match with both teams trying to attack and Cymric had another opportunity on 30 minutes when some good interplay on the edge of the Aber Valley box led to Ryan David being put through on goal but his effort was well saved. No other real chances were created before half time. 

Both teams started the second half with the same intentions as the first and that was to play attacking football. Aber Valley had the first opportunity on 53 minutes when a free kick was headed out by the Cymric defence and the ball fell to the Aber Valley midfielder who volleyed just over the bar. Cymric took the lead on 68 minutes when Ryan David took a quick throw in and found Aled Hughes in midfield. He shifted the ball right and hit an unstoppable shot into the top corner from fully 35 yards. Cymric doubled their lead 2 minutes later when Osian Pritchard picked the ball up in midfield and hit a good effort from 25 yards but it was parried by the keeper and Ryan David pounced on the rebound to score from 6 yards. Aber Valley pulled one back on 77 minutes when Rhys Davies saved a good effort from the Aber Valley forward but the rebound fell kindly for Aber Valley and the ball was tapped in from close range. Aber Valley threw everything at Cymric in a bid to get an equaliser but Cymric defended excellently to keep them at bay. Rhodri Dafydd had a chance to make the game safe after 87 minutes when he was put through but his shot went straight at the keeper. 

Final score – Clwb Cymric 2 Aber Valley 1 

MOTM –Aled Hughes

Earlier Event: 4 February
Ynyshir Albions FC 0-1 Clwb Cymric
Later Event: 4 March
Cornelly United 2-2 Clwb Cymric