Back to All Events

Clwb Cymric 1-3 Whitchurch AFC

Gyda Stu yn ymweld ag un o noddwyr y Clwb, Dan Rogers, i gael dannedd gosod, roedd y cyfrifoldeb o ysbrydoli’r garfan cyn gêm gynghrair cynta’r tymor lawr i’r parchedig Jonathan Jones a TRD. Cymysg oedd ymateb y garfan pan arweiniodd y parchedig ni mewn gweddi i’r Arglwydd yn yr ystafelloedd newid.

Ta waeth, dechrau gweddol gan Cymric i’r gêm, ond gyda’r dyfarnwr ‘di penderfynu modelu ei symudiadau ar Jan Molby ac felly ddim yn gadael y centre circle, roedd hi am fod yn noson o benderfyniadau cymysg!

Ond doedd dim amheuaeth gyda gôlgynta’r gêm. Gyda’r bêl yn hedfan i gefn y rhwyd, daeth Llyr Davies o unlle i hedfan ar draws y gôl gydag arbediad buasai Simon Mignolet yn falch ohoni. Cic o’r smotyn, cerdyn coch, 1-0 Whitchurch. Er, mae’r tîm hyfforddi nawr yn ymwybodol o'i sgiliau ac yn awyddus i weld Llyr yn cael cyfle rhwng y pyst.

Gyda Cymric lawr i 10 dyn, yr ymwelwyr oedd yn mwynhau rhan helaeth o’r tir a’r bêl yn ystod weddill yr hanner cyntaf. Ond gan adael Osh Lloyd fyny, gyda Caio yn disgyn nôl, roedd modd parhau gyda’r system amddiffynnol ac felly heblaw am un arbediad da gan James, doedd Whitchurch ddim yn edrych fel ychwanegu at y sgôr.

Ond yn dilyn cic-rhydd amheus (un o nifer o benderfyniadau amheus gan ein ffefryn, Mr Cottrell), llwyddodd yr ymwelwyr i groesi o’r chwith. Methodd yr amddiffyn ei chlirio gyda’r bêl yn adlamu oddi ar gefn Vince a chwympo i chwaraewr Whitchurch 8 lathen o’r gôl, a wnaeth ddim camgymeriad. 2-0 hanner amser.

Yn yr ail hanner, roedd Cymric yn gyfforddus yn amddiffyn, gyda Whitchurch yn peri llai o broblemau ar ôl newid i system 3-5-2 ar hanner amser. Wrth i’r hanner barhau dechreuodd Cymric fwynhau mwy o feddiant, yn enwedig lawr y dde gyda Kyle yn allweddol yn nifer o symudiadau effeithiol. Ar ôl 70 munud sgoriodd Tom Lewis gôl gyntaf Cymric y tymor ar ôl symudiad da a ddechreuodd o hanner Cymric gan Alex. Ar ôl chwarae’r bêl i ganol cae, llwyddodd Cope i droi a chware hi i’r sianel chwith i Osh Pritch rhedeg imlaen iddi. Cyrhaeddodd Caio y cwrt cosbi a thynnu hi nôl i Tom Lewis i saethu heibio’r golwr i neud hi’n 2-1.

Mae'n rhaid bod cyrhaeddiad Stu, a’i ddannedd newydd disglair, wedi ysbrydoli’r tîm wrthynt chwilio am gôl arall i unioni’r sgôr. Daeth Charlo 'mlaen er mwyn cynnig fwy o brofiad i’r ymosod a gwthiwyd Caio fyny i gynnig fwy o gefnogaeth. Crëwyd nifer o gyfleoedd gan Cymric, gyda Alex yn enwedig yn methu taro’r targed ar ôl canfod ychydig o ofod yn y cwrt cosbi. Ond yn anffodus, sicrhaodd yr ymwelwyr y 3 pwynt ar ôl i gamddealltwriaeth rhwng Alex a Kyle alluogi ymosodwr Whitchurch wneud hi’n 3-1.

Ymlaen i Penrhiwfer ddydd Sadwrn yng Nghwpan Cymru. Gydag ambell chwaraewr dal ar goll, mi fydd yn gyfle i ambell aelod o garfan yr ail dîm greu argraff, gyda Chico yn enwedig yn awyddus i gael cyfle i ddominyddu amddiffyn Penrhiwfer.

Seren y gêm - Tom Lewis

Earlier Event: 12 August
Clwb Cymric 0-6 Cadoxton Barry
Later Event: 19 August
Penrhiwfer 1-0 Clwb Cymric