Back to All Events

Clwb Cymric 4-2 Cwmbach Royal Stars

1. Iwan Jones

2. Celt Iwan

3. Llyr Davies

4. Alex Davies

5. Rhodri G Williams 

6. Rhys Davies

7. Ryan David

8. Tom Lewis

9.Aled Hughes

10. Caio Iwan 

11. Osian Pritchard 

12. Tom Pritchard

14 Dylan Roberts

15. Rhodri Dafydd

16. Rhodri W Williams 


Roedd Cymric yn gwybod y bysa buddugoliaeth yn eu rhoi yn hafal ar bwyntiau gyda Cardiff Draconians ar frig y tabl a chawsant ddechrau perffaith wrth iddynt fynd ar y blaen ar ôl 4 munud. Ildiodd Cwmbach gic rydd mewn safle peryg a sgoriodd Alex Davies wrth iddo godi’r bêl yn gelfydd dros y wal i gornel y rhwyd. Fu bron iddynt fynd ymhellach ar y blaen ar ôl 9 munud pan dderbyniodd Aled Hughes y bêl yn y cwrt a throi i greu lle ond tarodd y bêl heibio’r postyn. Fodd bynnag, cawsant ail gol ar ôl 15 munud pan dderbyniodd Ryan David y bêl ar y dde o gic rydd sydyn a chroesodd yn wych i Tom Lewis sleidio mewn i sgorio o 6 llath. Cafodd Cwmbach eu cyfle cyntaf ar ôl 31 munud pan gawsant gic rydd mewn safle da ond heibio’r gôl aeth yr ymdrech. Ond, sgoriodd Cwmbach funud yn ddiweddarach pan ddaru Cymric beidio â delio gydag ymosodiad a disgynnodd y bêl i chwaraewr ganol cae Cwmbach a tharodd ergyd wych o 30 llath dros ben Iwan Jones yn y gôl. Sgoriodd Cymric eu trydydd ar ôl 39 munud pan enillodd Rhys Davies beniad yng nghanol cae a gafodd ei beniad ei fflicio mlaen gan Aled Hughes i lwybr Caio Iwan ac aeth yntau heibio’r golwr a rhoi’r bêl yn y rhwyd. 

Daeth Cwmbach allan gyda phenderfyniad ar ddechrau’r ail hanner a rhoi pwysau ar amddiffyn Cymric ond nid oeddynt yn gallu creu cyfle o werth. Cymric gafodd y cyfle cyntaf yn yr ail hanner pan reolodd Caio Iwan y bêl yn dda yn y cwrt a tharodd ergyd gafodd ei harbed yn wych gan y golwr. Sgoriodd Cymric eu pedwerydd gôl ar ôl 64 munud pan ddaru Aled Hughes gyfarfod croesiad gwych Ryan David o’r dde a 'sgubodd y bêl dros y gôl geidwad i gefn y rhwyd. Cafodd Cwmbach gyfle da i sgorio eu hail ar ôl 70 munud ond fe darodd y blaenwr y bêl dros y trawst o 8 llath. Cafodd Cwmbach ail gôl ar ôl 86 munud pan gawsant gic o’r smotyn ar ôl i Osian Pritchard droseddu yn y cwrt. 

Sgôr terfynol - Clwb Cymric 4 Cwmbach Royal Stars 2 

Chwaraewr y Gêm – Rhys Davies


Cymric went into this match knowing a win would take them level on points with Cardiff Draconians at the top and they had a great start by taking the lead after 4 minutes. Cwmbach gave away a free kick in a dangerous position and they were made to pay when Alex Davies lifted the ball over the wall into the corner of the net. They nearly added a second after 9 minutes when Aled Hughes turned expertly inside the box but he screwed his shot wide. However, they did get a second on 15 minutes when a quick free kick released Ryan David on the right and his cross was met by Tom Lewis who slid in to poke the ball into the net. Cwmbach’s first chance came after 31 minutes when they had a free kick but the effort went wide. However, the pulled one back a minute later when Cymric failed to clear properly from the back and the ball fell to the Cwmbach midfielder who struck a great effort over the keeper from 30 yards. Cymric restored their 2 goal advantage on 39 minutes when Rhs Davies won a header in midfield and his header was flicked on by Aled Hughes into Caio Iwan’s path and he went round the keeper and tapped into the empty net. 

Cwmbach came out fighting in the second half and put some pressure on the Cymric defence but couldn’t create any clear cut chances. Cymric had the first real effort of the second half when Caio Iwan controlled the ball well in the box and struck a great effort which was well saved by the keeper. Cymric made it four on 64 minutes when a Ryan David cross from the right was swept into the net by Aled Hughes. Cwmbach had a great opportunity to pull one back on 70 minutes when the ball ran into the path of the forward but he blasted high over the bar from 8 yards. They did get one back in the 86th minute when Osian Pritchard brought down the Cwmbach winger in the box and they scored the resulting penalty. 

A very good win for Clwb Cymric which takes them level on points with Cardiff Draconians at the top of the league. 

Final score – Clwb Cymric 4 Cwmbach Royal Stars 2 

MOTM –Rhys Davies

Earlier Event: 14 January
Clwb Cymric 3-1 Porthcawl Town
Later Event: 4 February
Ynyshir Albions FC 0-1 Clwb Cymric