Back to All Events

Cardiff Draconians 0-3 Clwb Cymric

1. Dafydd Edwards

2. Celt Iwan

3. Rhys Davies

4. Alex Davies

5. Rhodri G Williams 

6. Aled Hughes

7. Ryan David

8. Tom Lewis

9. Tom Davies

10. Rhodri W Williams 

11. Osian Pritchard 

12. Osian Lloyd

14. Dylan Roberts

15. Rhodri Charles

16. Sion Lewis 


Aeth y ddau dîm i mewn i’r gêm yma yn gwybod y bysa buddugoliaeth werthfawr unai yn mynd a Cardiff Dracs ymhellach i ffwrdd oddi wrth bawb neu roi Clwb Cymric ar yr un maint o bwyntiau a Cardiff Dracs gyda dwy gêm wrth law yn eu gem olaf cyn y Nadolig. Dechreuodd Cardiff Dracs yn dda ar gae anodd iawn gyda thempo uchel i’w chwarae a chawsant eu cyfle cyntaf yn y pum munud agoriadol. Chwaraewyd pêl letraws hir i’r ochor dde ac wedyn croesiad da i’r canol ond aeth y peniad heibio’r postyn o 8 llath. Cafodd Cardiff Dracs gyfle tebyg ar ôl 8 munud ond y tro hyn ddaeth y croesiad o’r ochor chwith ond unwaith eto heibio aeth y peniad. Oherwydd dwyster chwarae Cardiff Dracs roedd Cymric yn cael trafferth cadw’r bêl a chwarae’r gêm ar gyflymder eu hunain ond roeddynt yn edrych yn beryg iawn ar yr wrthymosodiad a chawsant gyfle da i sgorio ar ôl 38 munud. Ar ôl cyd-chwarae da gan Celt Iwan a Tom Davies, cafodd Rhodri Williams y bêl a rhedodd am gwrt cosbi Dracs a tharodd ergyd ar draws y golwr ond cafodd o blaen ei fysedd ati a’i gwirio am gic cornel. Cyfartal ar yr egwyl mewn hanner a ddominyddwyd gan Cardiff Dracs o ran meddiant ond heb orfodi Dafydd Edwards i neud arbediad ond Cymric gafodd y cyfle gorau’r hanner. 

Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn well ac aethant ar y blaen ar ôl 53 munud. Collodd Cardiff Dracs y bêl yn ddwfn yn hanner Cymric o’r cae ac ar ôl gwrthymosodiad cyflym gwelwyd Cymric mewn sefyllfa 2 yn erbyn 1 tu allan i gwrt cosbi Dracs. Pasiodd Rhodri Williams y bêl i Aled Hughes yn y cwrt ac fe basiodd y bêl yn bwyllog i gefn y rhwyd heibio’r golwr. Gwelwyd Cardiff Dracs yn dominyddu’r chwarae am gyfnodau hir ond roedd Cymric yn edrych yn beryg iawn ar yr wrthymosodiad. Crëwyd nifer o gyfleoedd gan Cardiff Dracs ond roedd amddiffyn a golwr Cymric yn benderfynol o’u cadw allan gydag amddiffyn arwrol a thri arbediad o fri gan Dafydd Edwards. Fodd bynnag, cafodd Cymric ambell i gyfle a fu bron iddynt gael eu hail gol ar ôl 65 munud. Gwelwyd gwaith da iawn gan Rhodri Williams ar linell gôl Cardiff Dracs wrth iddo nytmegio’r amddiffynnwr a thynnu’r bêl yn ôl i Osian Pritchard ond cafodd ei ergyd, a oedd yn hedfan am gornel ucha’r gôl, ei harbed yn wych gan y golwr. Cafodd Cymric gyfle euraidd i ymestyn eu mantais ar ôl 75 munud pan welodd Tom Davies ei hun drwadd gyda dim ond y golwr i’w guro ar ôl gwrthymosodiad cyflym, ond fe betrusodd ychydig yn rhy hir a gadael i amddiffynnwr Cardiff Dracs gael tacl allweddol i mewn i’w atal. Fe ddigwyddodd union yr un peth 10 munud yn ddiweddarach ond fe betrusodd Tom eto a gadael i’r amddiffynnwr gael tacl allweddol arall. Fodd bynnag, sgoriodd Ryan David ddwy gôl aidentical ar y gwrthymosodiad i Gymric yn yr amser a ychwanegwyd am anafiadau, gyda dwy ergyd ffyrnig ar draws y golwr i waelod isa’r rhwyd. 

Perfformiad a chanlyniad ffantastig yn sicrhau bo Cymric yn mynd yn gyfartal ar bwyntiau gyda Cardiff Draconians gyda dwy gêm wrth law i ddod yn y flwyddyn newydd. 

Sgôr terfynol - Cardiff Draconians 0 Clwb Cymric 3 

Chwaraewr y Gêm – Dafydd Edwards


Both teams went into this match knowing that a win would be precious as it would either take Cardiff Draconians further away from the chasing pack or would put Clwb Cymric level on points with Cardiff Draconians with two games in hand going into their Christmas break. Cardiff Dracs started the better side on a difficult pitch with a very high tempo to their play and it didn’t take long for them to create their first chance. A long diagonal ball found its way to the right and a good cross was met with a header but it went wide from 8 yards. Cardiff Dracs had a similar chance on 8 minutes but this time the ball was crossed from the left but again the header went wide. Cymric were finding it difficult to keep the ball and play the game at their pace due to Cardiff Dracs’ intensity but they did look dangerous on the counter attack and had a great chance to score after 38 minutes. Some good play by Celt Iwan and Tom Davies released Rhodri Williams just outside the area and his shot was excellently saved by the Cardiff Dracs keeper. All square at the break in a half dominated possession wise by Cardiff Dracs without testing the Cymric keeper but the best chance of the half fell to Cymric. 

Cymric started the second half much better and took the lead after 53 minutes. Cardiff Dracs lost the ball in Cymric’s third of the pitch and a quick counter attack found them in a 2 against 1 situation on the edge of Cardiff Dracs’ box. Rhodri Williams passed the ball to Aled Hughes in the area and he coolly passed the ball into the net past the advancing keeper. Cardiff Dracs then dominated the possession for long periods but Cymric looked very dangerous on the counter attack. Cardiff Dracs created numerous chances but both the Cymric defence and Dafydd Edwards in the Cymric goal kept them at bay with some excellent defending and three fantastic saves by Edwards. However, Cymric also had their chances and nearly got a second on 65 minutes. Some excellent work by Rhodri Williams on the by-line saw him nutmeg the defender and pull the ball back to Osian Pritchard but his shot, which was bound for the top corner, was tipped over by the Dracs keeper. Cymric had another excellent chance to double their lead on 75 minutes when another counter attack saw Tom Davies through on goal with just the keeper to beat but he hesitated before shooting and the Cardiff Dracs defender got in a vital tackle. The exact same thing happened again 10 minutes later but again Davies hesitated 10 yards out and another vital tackle was made. However, Cymric made the game safe in injury time with two excellent identical counter attacking goals in the space of two minutes, both converted by Ryan David with a fierce low shot across the keeper into the bottom corner of the net. 

A fantastic performance and result sees Cymric go level on points with Cardiff Draconians at the top but with 2 games in hand to come in the new year. 

Final score – Cardiff Draconians 0 Clwb Cymric 3 

MOTM –Dafydd Edwards

Earlier Event: 3 December
Clwb Cymric 3-2 Cadoxton Barry FC
Later Event: 14 January
Clwb Cymric 3-1 Porthcawl Town