Back to All Events

Clwb Cymric 1-0 Cogan Coronation AFC

1. Dafydd Edwards

2. Tom Hughes

3. Llŷr Davies

4. Dylan Roberts

5. Rhys Davies 

6. Aled Hughes

7. Tom Lewis

8. Rhodri Dafydd

9. Tom Davies

10. Ryan David 

11. Osian Pritchard 

12. Caio Iwan

14 Dylan Evans

15. Siôn Cox 


Dechreuodd Cogan y gêm yn hynod o dda a fu bron iddynt fynd ar y blaen ar ôl dim ond 2 funud. Cawsant gic rydd tua 25 llath o’r gôl ac roedd yr ergyd yn hedfan am gornel uchaf y gôl cyn i Dafydd Edwards gael ei law iddi a throi’r bel dros y trawst am gic gornel. Cafodd Cogan gyfle arall o’r gic honno ond aeth y peniad heibio’r postyn. Cafodd Cymric eu cyfle cyntaf ar ôl 5 munud ond cafodd cic rydd Dylan Roberts ei harbed yn hawdd. Fe greodd Cymric gyfle arall ar ôl 15 munud pan, ar ôl chwarae da yng nghanol cae, aeth y bel allan at Osian Pritchard ar y chwith ond aeth ei ergyd fodfeddi heibio’r postyn. Cafodd Osian gic rydd ar ôl 28 munud ond fe arbedwyd ei ergyd yn hawdd. Aeth Cogan yn agos iawn ar ôl 41 munud pan gafodd croesiad o’r asgell dde ei phenio’n dda ond fe darodd y bel y postyn. 

Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn llawer gwell a fu bron iddynt fynd ar y blaen ar ôl 50 munud. Chwaraewyd pêl hir dros ben amddiffyn Cogan a daeth y gôl-geidwad allan i’w chlirio. Yn anffodus iddo, aeth ei gic yn syth at Aled Hughes yng nghanol cae ac ar ôl rheoli’r bel yn dda fe ergydiodd o 45 llath ac roedd y bel yn hedfan am gefn y rhwyd ond cafodd ei phenio oddi ar y llinell yn wych gan yr amddiffynnwr. Aeth Cymric yn agos eto ar ôl 57 munud ar ôl gwaith da lawr y dde rhwng Tom Hughes a Caio Iwan ac fe fflachiodd Caio'r croesiad heibio blaen y gôl ond cafodd y bêl ei methu ar y postyn pellaf gan 2 chwaraewr Cymric. Aeth Dylan Roberts yn agos wedyn ar ol 65 munud pan gododd y bel hanner ffordd i mewn i hanner Cogan o’r cae a tharodd taran o ergyd a darodd top y trawst. Fodd bynnag, ddaru holl bwysau Cymric dalu ar ol 78 munud pan ddaru Caio Iwan bigo’r bel i fyny ar ochor cwrt cosbi Cogan. Aeth heibio i’w amddiffynnwr yn gelfydd a tharodd ergyd wych i gornel uchaf pella’r gôl o 18 llath. Gôl wych a hollol haeddiannol. Aeth Cogan i edrych am y gôl i unioni’r sgôr ond cawsant eu rhwystro gan amddiffyn Cymric ac wedyn aethant lawr i 10 dyn pan welodd eu chwaraewr canol cae'r cerdyn coch am 2 gerdyn melyn yn syth ar ol ei gilydd am ddadlau gyda’r dyfarnwr. Dylai Cymric wedi ychwanegu gôl arall ond methwyd dau gyfle yn ystod munudau ola’r gem. Tri phwynt da iawn i Cymric ar ol canlyniad siomedig wythnos cynt, a’u 6ed gem heb ildio yn y gynghrair hyd yn hyn. 

Sgôr terfynol - Clwb Cymric 1 Cogan Coronation 0 

Chwaraewr y Gêm – Aled Hughes


Cogan started the match very well and nearly took the lead just 2 minutes in. They were awarded a free kick 25yds out and the effort was heading for the top corner but Dafydd Edwards made an excellent save to tip it over for a corner. Cogan then had a chance from the resulting corner but the header went wide. Cymric had their first opportunity after 5 minutes when a Dylan Roberts free kick was easily saved. Cymric created another chance after 15 minutes when the ball was worked out left to Osian Pritchard but his shot went narrowly wide. The same player had a free kick easily saved by the Cogan keeper after 28 minutes. Cogan went close after 41 minutes when a right wing cross was headed against the post. 

Cymric started the second half much better and nearly took the lead after 50 minutes. The Cogan keeper came out to clear but his clearance went straight to Aled Hughes, who controlled and shot from fully 45 yards with the keeper out of his area. His effort was sailing in but was excellently headed off the line. Cymric went close again on 57 minutes when some great work down the right by Tom Hughes and Caio Iwan led to an excellent cross which flashed across the face of the goal and missed at the far post by 2 Cymric players. Dylan Roberts then went close after 65 minutes when he picked up a loose ball mid-way into the Cogan half and he unleashed an unstoppable shot which clipped the top of the crossbar. However, all Cymric’s pressure paid off on 78 minutes when Caio Iwan picked the ball up on the edge of the Cogan area. He then went past the defender and struck an excellent left foot shot from 18 yards into the far top corner. An excellent goal and well-deserved. Cogan then went looking for the equaliser and were frustrated by the Cymric defence and they went down to 10 men when their midfield player was sent off for 2 yellow cards in quick succession for arguing with the referee. Cymric should have added another but missed two good chances in the dying minutes. A good three points after last week’s disappointing result, and their 6th clean sheet of the season in the league. 

Final score – Clwb Cymric 1 Cogan Coronation 0 

MOTM –Aled Hughes

Earlier Event: 22 October
Clwb Cymric 0-4 Dynamo Aber FC
Later Event: 4 November
Cefn Cribwr BC 4-1 Clwb Cymric