Back to All Events

Grange Albion 3-1 Clwb Cymric

1. Wil Thomas 

2. Tom Hughes 

3. Celt Iwan 

4. Alex Davies 

5. Rhodri G Williams

6. Rhodri Dafydd 

7. Tom Lewis 

8. Dylan Roberts 

9. Tom Pritchard  

10. Ryan David

11. Osian Pritchard

12. Rhys Davies 

14 Dafydd Herbert 

15. Stuart Williams


Dechreuodd Cymric y gêm dda gan chwarae pêl-droed taclus iawn yn y 10 munud cyntaf ac ar ôl 10 munud cafwyd eu cyfle cyntaf. Derbyniodd Osian Pritchard y bêl gan Rhodri Dafydd ond aeth ei ergyd tua throedfedd heibio’r postyn. Tri munud yn ddiweddarach ffendiodd Tom Pritchard ei hun mewn digon o le yn y cwrt cosbi ond aeth ei ergyd heibio’r postyn o 16 llath. Pan gafodd Grange Albion eu cynnig cyntaf am gôl fe sgoriodd. Ni chafodd cic cornel o’r chwith ei chlirio ac fe beniodd yr ymosodwr y bel i’r rhwyd. Aethant ymhellach ar y blaen ar ôl 21 munud pan ddaru Cymric roi’r bel i ffwrdd yng nghanol cae. Gwelwyd pas wych drwodd yn cael ei chodi dros Wil Thomas wrth iddo ddod allan ac i gefn y rhwyd. Aeth Rhodri Dafydd yn agos ar ôl 27 munud pan bigodd y bel fyny ar ôl cic gornel, a chrymanodd ei ergyd am gornel pella’r gôl ond cafodd ei harbed yn hawdd. Aeth Grange Albion ymhellach ar y blaen ar ôl hanner awr gyda gôl ardderchog. Derbyniodd ymododwr Grange Albion, a oedd wastad yn achosi trwbl i amddiffyn Cymric, y bêl gyda’i gefn i’r gol. Fe drodd a cholli ei amddiffynnwr, fel ddaru Hal Robson-Kanu yn erbyn Gwlad Belg, a chrymanodd y bel i gornel y gôl.

Daeth Cymric allan am yr ail hanner yn benderfynol i gael argraff ar y gêm a chawsant gol ar ôl 51 munud pan aeth cic gornel Ryan David yn syth i’r gôl wrth y postyn agosaf. Cododd y gôl ysbryd Cymric a dylsant fod wedi tynnu un arall yn ôl dau funud yn ddiweddarach. Gwelwyd gwaith da gan Rhodri Dafydd yn galluogi iddo basio’r bel ymlaen i’r cwrt i rediad Ryan David ond cododd y bêl dros y trawst o 5 llath. Roedd Grange Albion yn cael eu gwthio nôl yn amal gan Cymric a fu bron i Ryan David sgorio eto ar ôl 66 munud ond cafodd ei beniad ei chlirio oddi ar y lein. Roedd Cymric yn chwarae’n dda a fu bron iddynt sgorio ar ôl 83 munud pan gafodd ergyd Ryan David ei harbed yn wych a tharodd y bêl y postyn. Torodd Grange Albion yn syth o hyn ac aethant i ben arall y cae ble arbedodd Wil Thomas yn wych i gadw Cymric yn y gêm. Fe bwysodd Cymric tan ddiwedd y gêm yn edrych am gôl ond Grange Albion aeth a hi. Fodd bynnag, gall Cymric gymryd balchder yn eu perfformiad, yn enwedig yn yr ail hanner.

Sgôr Terfynol – Grange Albion 3 Clwb Cymric 1

Chwaraewr y Gêm – Tom Hughes


Cymric started well and played some neat and tidy football in the first 10 minutes and had their first chance on 10 minutes. Osian Pritchard received a pass from Rhodri Dafydd but his shot went a foot wide. Three minutes later Tom Pritchard found himself in space in the box but his went wide from 16 yds. Grange Albion’s first effort on goal saw them take the lead. A corner from the left wasn’t dealt with and they went ahead from a free header. They went further ahead on 21 minutes when Cymric gave the ball away in midfield. A great through ball was played and the forward coolly lifted the ball over the advancing Wil Thomas into the net. Rhodri Dafydd went close for Cymric on 27 minutes when he picked up the pieces after a Cymric corner, but his curling effort was easily saved. Grange Albion made it three on the half hour with a fantastic individual goal. The Albion striker, who was a constant threat, received the ball with his back to goal on the edge of the Cymric box. He then turned his marker with a turn that Hal Robson-Kanu would be proud of, and curled the ball into the corner of the net.

Cymric came out in the second half determined to make an impression on the match and they pulled a goal back on 51 minutes when a Ryan David corner went straight in at the near post. This lifted Cymric and they should have pulled another back two minutes later. Some great work by Rhodri Dafydd saw him play a great ball to Ryan David in the box but he lifted the ball over the bar from 5 yards out. Grange Albion were being constantly pegged back and Ryan David nearly scored as his headed effort was cleared off the line on 66 minutes. Cymric were playing some good football and they nearly scored after 83 minutes when that man Ryan David again had an effort excellently pushed on to the post by the Grange Albion keeper. Grange then broke immediately and went up the other end and forced Wil Thomas into an excellent save to keep them in the game. Cymric still pressed to get back in the game but Grange ran out eventual winners but Cymric can take a lot from their performance, especially the second half.

Final score – Grange Albion 3 Clwb Cymric 1

MOTM – Tom Hughes

Earlier Event: 8 October
Treforest FC 0-3 Clwb Cymric
Later Event: 22 October
Clwb Cymric 0-4 Dynamo Aber FC