Back to All Events

Clwb Cymric 0-4 Cardiff Draconians

1. Rhys Davies 

2. Celt Iwan 

3. Llyr Davies 

4. Alex Davies 

5. Rhodri G Williams

6. Tom Davies 

7. Tom Lewis 

8. Dylan Roberts 

9. Dylan Evans 

10. Ryan David

11. OwainTaylor

12. Rhys Richards 

13. Tom Hughes 

14. Jonny Jones 

15. Sion Cox


Dechreuodd Cardiff Dracs yn dda ar gae mwdlyd a gwlyb. Creodd eu cyfle cyntaf ar ôl 8 munud pan roddodd Cymric y bel i ffwrdd yn hanner eu hunain ond gwelwyd ergyd wan yn cael ei harbed yn hawdd gan Rhys Davies. Ond, aeth Cardiff Dracs ar y blaen ar ôl 13 munud pan ddaru bêl hir ddal amddiffyn Cymric allan ac fe drodd yr ymosodwr yn dda a gyrru ei ergyd dros Rhys Davies I gefn y rhwyd. Fu bron i Gymric unioni’r sgôr ar ôl 15 munud pan groesodd Tom Davies y bel o’r dde a gwelwyd peniad Dylan Evans yn cael ei harbed yn wych gan y gôl geidwad. Fu bron I Dracs gael eu hail ar ôl 23 munud ond cafodd eu hymdrech ei harbed yn dda gan Rhys Davies. Fodd bynnag, aethant ymhellach ar y blaen ar ôl 32 munud pan roddodd Cymric y bel i ffwrdd ar ochor y cwrt cosbi ac fe beniwyd y bel i gefn y rhwyd o groesiad gwych o’r dde.

Dechreuodd Cymric yr ail hanner yn lot gwell ond fu bron iddynt fynd ymhellach ar ei hol hi ar ôl 50 munud. Cawsant ymdrech am gol ond fe dorrodd Cardiff Dracs yn gyflyn o’r cefn a gwelwyd arbediad gwych gan Rhys Davies. Roedd y gêm yn mynd o ochor i ochor a dylai Cymric wedi sgorio ar ôl 58 munud pan ryddhawyd Dylan Evans a gyda dim ond y gôl geidwad i’w guro, aeth ei ergyd ymhell heibio o 12 llath. Fe brofodd honno i fod yn fethiant costus iawn pan sgoriodd Dracs eu trydydd gol ar ôl 65 munud. Ar ôl cic rydd wych o’r dde, gwelwyd camgymeriad gan Rhys Davies a disgynnodd y bêl i droed amddiffynnwr Cardiff Dracs a sgoriodd o 4 llath. Cafodd Cymric gic o’r smotyn ar ôl 70 munud ond cafodd ergyd Ryan David ei harbed yn wych. Tarodd yr un chwaraewr bostyn Dracs ar ôl 78 munud ac ar ôl hynny roedd Cymric yn gwybod bo lwc yn eu herbyn heddiw. Seliodd Dracs y fuddugoliaeth yn amser a ychwanegwyd am anafiadau gyda gôl ogoneddus o du allan i’r cwrt cosbi.

Sgôr Terfynol – Clwb Cymric 0 Cardiff Draconians 4

Chwaraewr y Gêm – Tom Davies


Cardiff Dracs started the better on a wet and muddy pitch. They created their first chance after 8mins when Cymric gave the ball away in their own third but the shot was weak and easily gathered by Rhys Davies. Cardiff Dracs took the lead on 13mins when a long ball over the top caught out the Cymric defence and the striker turned and shot over Davies in the Cymric goal. Cymric nearly equalised on 15mins when good work from Tom Davies on the right saw him get a great cross which was met by Dylan Evans and his header was tipped over the bar. Dracs nearly extended their lead on 23mins but the effort was well saved by Davies. However, they did go 2up on 32mins when Cymric gave the ball away on the edge of their box and the ball went wide right and the cross was met with a free header into the bottom corner.

Cymric started the second half much better but nearly went three down after 50mins. They had an effort on goal but Dracs broke quickly and forced an excellent save from Rhys Davies. The game was now end to end and Cymric should have pulled one back on 58mins when Dylan Evans was put clean through on goal but his effort went wide from 12yds. That proved to be a costly miss as Cardiff Dracs extended their lead on 65mins. A great delivery from a free kick wide on the left led to a mistake by Davies in the Cymric goal and the ball fell kindly for Dracs and they scored from close range. Cymric were awarded a penalty on 70mins but Ryan David’s spot kick was well saved. The same player then hit the Dracs post on 78mins and Cymric knew then it wasn’t going to be their day. Dracs sealed the win in injury time with an exquisite chip from the edge of the area.

Final score – Clwb Cymric 0 Cardiff Draconians 4

MOTM – Tom Davies

Earlier Event: 24 September
Clwb Cymric 3-0 Treforest FC
Later Event: 8 October
Treforest FC 0-3 Clwb Cymric