Back to All Events

Clwb Cymric 3-4 Butetown AFC

Roedd ambell i aelod o’r sgwad ar goll ar gyfer ymweliad Butetown â Chwrt yr Ala ond cafwyd y dechrau perffaith wrth i Osh, oedd yn chwarae yn safle’r rhif 10, sgorio yn y chwarter awr agoriadol gydag ergyd dda gyda’i droed chwith. Roedd Cymric yn chwarae pêl-droed addawol ar brydiau ond roedd canol cae Butetown yn grefftus iawn ac unionwyd y sgôr ar ôl hanner awr. Aeth Butetown ar y blaen ychydig yn ddiweddarach ac felna yr oedd hi tan yr hanner.

Dechreuodd Cymric yr ail hanner gydag awch a sgoriodd Osh ei ail o’r gêm gyda pheniad, ia peniad, ar ôl cic cornel o’r chwith. Cwblhaodd ei hat-tric, a hat-tric perffaith wedi hynny, pan sgoriodd gyda’i droed dde i gornel y rhwyd. Roedd Cymric yn weddol gyffyrddus ond cawsant ergyd pan unionodd Butetown gyda hanner awr yn weddill ar ôl symudiad da lawr y chwith. Yn anffodus aeth Butetown ar y blaen unwaith eto gyda chwarter awr yn weddill pan sgoriodd eu blaenwr gic rydd aeth dros ben James yn y gol. Cafwyd diweddglo ffrantig gyda Cymric yn edrych i gael pwynt o leia. Cafodd Vince ei ail gerdyn melyn o’r prynhawn am sgyffl gyda golwr Butetown, ddaru lechio Vince i’r ddaear am ddim rheswm. Nid oedd Vince yn haeddu'r un cerdyn ond stori arall ydy honna.

Canlyniad siomedig gan bo Cymric yn well tim ar y diwrnod.

Sgôr Terfynol – Cymric 3 Butetown 4

Earlier Event: August 18
Clwb Cymric 2-1 Cwmcarn Athletic