Back to All Events

Clwb Cymric 2-1 Cwmcarn Athletic

Nod Cymric yn y gêm ragbrofol Tlws yr FAW yma oedd sicrhau buddugoliaeth a’u lle yn y rownd nesaf am y tro cyntaf mewn 7 mlynedd.

Cawsant ddechrau da ond cafwyd ergyd anffodus pan ddaru Ryan dynnu ei hami yn y munud cyntaf a thaflwyd Tomi Gun ar yn ei le ar ôl pythefnos o wyliau yn Ffrainc.

Fodd bynnag, aethant ar y blaen ar ôl 20 munud pan dderbyniodd Huw y bel yng nghanol
hanner Cwmcarn o’r cae. Rhedodd at yr amddiffyn, gan guro dau a tharo ergyd isel i gornel y rhwyd.

Sgoriodd Huw ei ail ychydig yn ddiweddarach pan gafodd y bel ar ochor cwrt cosbi Cwmcarn a tharodd ergyd dda i gornel ucha’r gol gan roi dim gobaith i golwr Cwmcarn.

Roedd Cymric yn gwybod y bydd Cwmcarn yn dod allan am yr ail hanner gyda phwynt i’w brofi a dyna yn union ddaru nhw neud gan iddynt hanner mantais Cymric o fewn y 10 munud cyntaf.

Ar ôl gwaith da, derbyniodd yr asgellwr y bel ar y dde a chroesodd y bel yn fuan tuag at y corridor o ansicrwydd, ble roedd ei gyd-chwaraewr yn disgwyl am y bel ar y postyn pellaf a sgoriodd yntau yn hawdd.

Ymateb gwych ganddynt. Ddaru Cwmcarn neud popeth y gallant i geisio unioni’r sgôr ond
nid oedd rhaid i James neud arbediad gan fo’r amddiffyn yn gadarn. Fe gafodd Cymric ambell i gyfle i ymestyn eu mantais ond roedd Tomo a Huw yn euog o fethu cyfleoedd da iawn.

Serch hynny, buddugoliaeth gyntaf o’r tymor i Cymric ac maent yn falch o fod yn yr het am y rownd nesaf.

Chwaraewr y gêm – Huw Owen


Cymric went into this FAW Trophy qualifying round aiming to get through to the next round for the first time in 7 years.

They started brightly but were dealt a blow when the influential Ryan David pulled a hamstring in the first minute of the match and had to be replaced by Tom Pritchard.

However, they took a deserved lead after 20 minutes. Huw Owen picked the ball up in the middle of the Cwmcarn half and beat a couple of players before unleashing an excellent low shot into the bottom left hand corner of the net. Cymric doubled their lead shortly afterwards when Huw Owen again picked the ball up on the edge of the Cwmcarn area and his shot flew into the top corner giving the keeper no chance.

Cymric knew that Cwmcarn would come out with all guns blazing and that’s exactly what they did and pulled a goal back in the first ten minutes. Some good work down the right saw the winger put in an early cross into the danger area and this was turned in at the far post. An excellent response.

Cwmcarn then did everything they could to get the equaliser but James Kennedy didn’t have a save to make in the Cymric goal. Cymric did have opportunities to extend their lead but Neil Thomas and Huw Owen were guilty of missing good chances.

A good first win of the season for Cymric which puts them in the hat for the next round.

MOTM – Huw Owen

Earlier Event: August 14
Clwb Cymric 0-1 Treforest
Later Event: August 25
Clwb Cymric 3-4 Butetown AFC