Back to All Events

Butetown AFC 2-1 Clwb Cymric

IMG-20170830-WA0014.jpg

Fe ddechreuodd y gêm yn flêr ond yn raddol fe gafodd y tîm cartref y gorau o'r chwarae a chyn hir fe sgoriodd Butetown ar ôl peniad wych o 14 llath yn syth o gic gornel.

Yn fuan wedyn fe sgoriodd y tîm cartref eto ar ôl i'r bêl fethu a chael ei chlirio yn iawn o gornel arall. Fe dderbyniodd asgellwr Butetown y bêl gan y chwaraewr canol cae cyn llithro'r bêl yn gelfydd heibio Ynyr James yn y gôl.

Roedd hyder yn isel ymysg chwaraewyr Cymric ac er i Huw Owen gael ambell i hanner cynnig ar y gôl, fe arhosodd y sgôr yn 2-0 ar yr egwyl.

Ond roedd yr ail hanner yn stori wahanol.

Llwyddodd yr ymwelwyr i gadw meddiant yn wych ar adegau gan greu nifer o gyfleoedd. Fe dalodd y pwysau ar ei ganfed gyda chwarter awr yn weddill gyda'r bytholwyrdd Steve Cope yn canfod cornel isa'r rhwyd yn dilyn gwaith adeiladol gwych.

Roedd yr hyder bellach yn llifo ac fe ddaeth cyfleoedd euraid i Alex Davies a Caio Iwan gyda'r naill yn llwyddo i benio'r bêl dros y trawst. Fe dynodd Osh Gun ei ergyd heibio'r post o 12 llath cyn i Caio gael siot o bellter wedi'i chlirio oddi ar y linell gôl gyda'r goli wedi'i guro.

Ond bu'r ymdrechion yn ofer wrth i Butetown lwyddo i ddal eu gafael i'r triphwynt - gan arwain at ddathlu ymysg y cefnogwyr cartref, swnllyd.

Seren y gêm - Osh 'Gun' Pritchard


IMG-20170830-WA0002.jpg

The game started in a relatively scrappy manner with both sides struggling to gain the upper-hand. Slowly, Butetown began to assert some dominance, looking much more comfortable on the ball and keeping the pressure on the Cymric defence.

That dominance soon paid off after a poorly defended throw-in resulted in a corner to Butetown. The out-swinging corner found the Butetown number 11 who from a standing position directed a great header to the far top corner from around 14 yards out.

Butetown soon doubled their lead after another corner was only half cleared. Very little pressure was imposed on the Butetown midfielder who looped a through ball to the midfielder who had made a back post run. He managed to bring it down and finish past Ynyr James in the Cymric goal. 2-0 Butetown.

Cymric sought to get into the game but they were limited to counter attacks and long balls and even though Huw Owen enjoyed some half chances from long balls over the high line being played by the Butetown defence, they were unable to pull a goal back before half time.

The second half was a completely different game. Cymric dominated throughout, with confidence visibly increasing amongst the Cymric players.

Cymric pulled a goal back with 15 minutes to go with Steve Cope finishing an excellent Cymric move. Cymric pushed on and created numerous chances.

Alex Davies headed over from six yards from a corner and Caio Iwan did the same from an excellently delivered Cope free kick. Osh Gun dragged a shot wide from 12 yards and Caio had a shot from distance cleared off the line with the keeper beaten. Their efforts were to no avail as Butetown managed to hold on for a 2-1 victory.

MOTM - Osian Pritchard

 Kappa kid: Rhys TRD gymrodd yr awenau yn absenoldeb y prif hyfforddwr, Stiw Williams / Cymric players try to impress under the watchful eye of Rhys TRD, who took over managerial duties in the absence of newly-married gaffer, Stuart Williams

Kappa kid: Rhys TRD gymrodd yr awenau yn absenoldeb y prif hyfforddwr, Stiw Williams / Cymric players try to impress under the watchful eye of Rhys TRD, who took over managerial duties in the absence of newly-married gaffer, Stuart Williams

Earlier Event: August 26
Clwb Cymric 1-0 Cornelly
Later Event: September 9
Trebanog 4-2 Clwb Cymric